Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Chwefror 2017
Amser:
09. -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3845
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Nicola Charles, Llywodraeth Cymru Paul Webb, Devolved Sercvices Reform Sophie Howe, Future Generations Commissioner Marie Brousseau-Navarro, Legislation and Innovation |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 517KB) Gweld fel HTML (310KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC.
1.3. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:
· John Griffiths AC;
· Jenny Rathbone AC
· Joyce Watson AC
· Rhianon Passmore AC
· Siân Gwenllian AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
· Paul Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Gwasanaethau Datganoledig
· Nicola Charles, Cyfreithiwr
2.2 Bu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wneud datganiad o fuddiant fel aelod o undeb.
2.3 Yn ystod y sesiwn, cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu eglurhad ynghylch y graddau y bydd y Bil yn effeithio ar y rhai sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ran awdurdodau datganoledig yng Nghymru, yn ogystal â'r awdurdodau hynny eu hunain a'u gweithwyr.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
· Marie Brousseau-Navarro, Cyfarwyddwr Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi
3.2 Cytunodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ddarparu copi o’r llythyr a anfonwyd at bob awdurdod lleol mewn perthynas â’r amserlenni statudol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar faterion na chafwyd cyfle i’w trafod yn ystod y cyfarfod, ac ar faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Casnewydd
4.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â 'Llais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â Chymru/San Steffan a gwledydd datganoledig'
4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
4.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 3.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.